Newyddion Sylw
Hysbysfwrdd
Opsiynau TGAU 2025
Mae'n dymor dewis opsiynau TGAU ac mae llawer o weithgareddau wedi'u trefnu. Cliciwch yma i weld y calendr ac yma i weld prospectws 2025.
PWYSIG! MAE YSGOL MORGAN LLWYD YN YSGOL DDI-GNAU!
Er mwyn cadw'r disgyblion a staff hynny sy'n dioddef o alergedd cnau yn hapus ac yn iach, sicrhewch nad ydych chi'n dod â bwydydd sy'n cynnwys cnau i'r ysgol!
Grwp Cefnogi Gofalwyr
Ble: Ysgol Morgan Llwyd.
Pryd: Pob yn ail ddydd Iau am 12.00yp yn cychwyn o’r 07-03-24.
Pwy: Unrhyw un sydd yn gofalu am blant / pobl ifanc nad ydynt yn rhieni / llys-rieni iddynt e.e. y rhai sydd â Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig.
Pwy sy'n gofalu am y gofalwyr?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ms Heddus Wyn, Ysgol Morgan Llwyd.
EIN CAMPWS
Cliciwch YMA i ddefnyddio map rhyngweithiol o'r campws!
POENI AM WAITH YSGOL EICH PLENTYN?
Ydy eich plentyn yn cael trafferthion deall pynciau penodol, technegau adolygu, cymhelliant neu brofion?
Bellach, gallwch gyfeirio eich plentyn at Hwb Dysgu/Addysgu yr ysgol i gael help unigol, ychwanegol!
Cliciwch YMA i ddarganfod sut mae gwneud hyn!
Cliciwch YMA i fynd i wefan Yr Hwb Dysgu!
Digwyddiadau i Ddod
Noson Agored Chweched dosbarth
Noson Opsiynau bl 9
Noson Rhieni Gyrfau (10 &11)
Gwyliau hanner tymor
Calendr Llawn
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Croeso i wefan Ysgol Morgan Llwyd. Ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yw Ysgol Morgan Llwyd wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac sy’n gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Daw ein disgyblion o’r ddinas ei hun, y pentrefi cyfagos ac o ardal wledig Dyffryn Ceiriog. Ysgol Morgan Llwyd yw unig ysgol uwchradd Gymraeg y Sir ac un o’r ddwy ysgol yn unig sydd â Chweched Dosbarth.
Ein Gweledigaeth
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.
Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu’n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.
“Ym mhob llafur mae elw”. Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o’n cymuned.
Cymraeg. Caredig. Cyfrifol.
Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddysgwyr uchelgeisiol
- Rydym yn parchu hawl pawb i ddysgu
- Rydym yn barod i fentro a dyfalbarhau
- Rydym yn falch o’n gwaith, o’n ysgol a’n gwlad
Mae disgyblion Ysgol Morgan Llwyd yn ddinasyddion da
- Rydym yn gwrtais a charedig at bawb
- Rydym yn gofalu ar ôl ein hysgol a’n gilydd
- Rydym yn cymryd rhan ym mywyd yr ysgol