Bagloriaeth Cymru
Croeso i Adran y Fagloriaeth Gymreig!
Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 10, 11, 12 a 13 yn astudio’r pwnc yma gan gwblhau pedair her; Her y Gymuned, Her Dinasyddiaeth Fyd Eang, Her Menter a Chyflogadwyedd a’r Prosiect Hir. Ar ddiwedd blwyddyn 11 a 13, bydd disgyblion yn ennill cymhwyster Tystysgrif Sgiliau ac, yn dibynnu ar gymwysterau eraill, cymhwyster y Fagloriaeth Gymreig.
Yn sicr, mae gan y gwaith o fewn yr heriau rywbeth at ddant pawb. Mae’r Fagloriaeth yn caniatáu i ddisgyblion ddatblygu nifer o sgiliau sy’n help gydag astudiaethau pellach ac mae’n cynyddu gwybodaeth gyffredinol y disgyblion am y byd o’u cwmpas. Mae’r Fagloriaeth hefyd yn fanteisiol iawn ar gyfer y byd gwaith gyda chyflogwyr yn gweld ei fantais.