Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gosod blaenoriaeth uchel ar wella galluoedd, cyflawniadau a chyfraniadau yn ogystal â chodi dyheadau pob disgybl. Credwn yn gryf mewn darparu ar gyfer pob dysgwr, beth bynnag ei allu, rhyw a hil, mewn amgylchfyd hapus a diogel lle y gall ddatblygu hyd eithaf ei allu yn academaidd ac yn gymdeithasol. Rydym yn cydnabod bod continwwm o anghenion a bod gan ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yr hawl i addysg eang a chytbwys y Cwricwlwm Cenedlaethol. Nod Ysgol Morgan Llwyd yw integreiddio pob disgybl i bob agwedd o fywyd ysgol.
Mae gan oddeutu 23% o ddysgwyr yng Nghymru rhyw fath o anghenion dysgu ychwanegol (ADY.)
Mae gan berson ADY:
· Os oes ganddyn nhw anhawster dysgu neu anabledd sy’n golygu eu bod nhw angen cefnogaeth ychwanegol.
· Os ydyn nhw’n ei chael hi’n anoddach i ddysgu na phlant a phobl ifanc o’r un oed.
Bydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Newydd yn dod i rym o fis Medi 2021.
Prif ddiben y Cod Newydd yw:
· Canolbwyntio ar anghenion dysgwyr o 0-25 oed.
· Sicrhau bod Cynllun Datblygu Unigol gan bob disgybl ADY sydd angen un.
· Cyfrannu at gydweithio gwell rhwng athrawon, rhieni, disgyblion ac asiantaethau fel bod anghenion yn cael eu nodi yn gynnar a’r cymorth cywir yn cael eu rhoi ar waith.
· Gwella cefnogaeth i blant a sicrhau eu bod yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
· Gosod y disgybl yn ganolog i’r holl broses a sicrhau bod eu llais nhw yn cael ei glywed a’u barn nhw’n cael ei ystyried.
Nod yr Adran ADY (Camau)
· mae rhoi pob cyfle i ddatblygu gwir botensial ein holl ddisgyblion yn hanfodol yn ein hadran ni.
· Cynnig ystod o gefnogaeth, drwy law y CADY a chymorthyddion yr adran, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn llwyddo.
· Sicrhau bod gan bobl disgybl yr hawl i gwricwlwm eang a chytbwys gyda mynediad lawn at y Cwricwlwm Cenedlaethol lle’n berthnasol.
· Gwerthfawrogi pob plentyn a hybu ei hunanwerth.
· Meithrin perthynas agos gyda rhieni / gofalwyr sydd yn chwarae rôl bwysig iawn yn addysg eu plentyn.
Cyfranogiad Rhieni/Gwarcheidwaid
Mae'n bwysig bod Ysgol Morgan Llwyd yn gweithio'n agos gyda rhieni / gwarcheidwaid disgyblion gydag ADY a bod eu safbwyntiau'n cael eu hystyried.
Anogir rhieni/gwarcheidwaid i ddarparu eu safbwyntiau yn ystod pob cam o'r broses ADY ac i gyfarfod gyda'u swyddog enwebedig fel y bo'n briodol.
Anogir rhieni/gwarcheidwaid i lenwi'r holl ddogfennau i sicrhau yr ystyrir eu safbwyntiau.
Fel adran, mae mewnbwn rhieni a gwarcheidwaid yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion. Mae gennym bolisi drws agored. Mae croeso i chi ffonio neu ymweld â’r ysgol er mwyn trafod pryderon neu gynnydd. Mae croeso hefyd i chi e-bostio’r CADY: Mrs Kelly Williams - [email protected]
Cymorth i Rieni/Gwarcheidwaid
Darperir y Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni ar draws Bwrdeistref Sirol Wrecsam gan SNAP Cymru. Mae gan SNAP Cymru llawer o brofiad, arbenigedd a gwybodaeth ynglyn â gweithio gyda theuluoedd a sefydliadau eraill. Mae’r gwasanaeth yn sicrhau bod gan rieni plant ag anghenion dysgu ychwanegol fynediad i gyngor ac arweiniad annibynnol fel y gallant wneud penderfyniadau priodol a gwybodus.
Mae’r Gwasanaeth Partneriaethau Rhieni am ddim i deuluoedd ac yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd a manwl gywir.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ynglyn â SNAP Cymru ar eu gwefan www.snapcymru.org.
Gall rhieni, gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r gwasanaeth yn y ffyrdd canlynol:
E-bost: [email protected] Gwefan: www.snapcymru.org/contact
Rhif ffôn: 0808 801 0608 (dydd Llun - ddydd Gwener 9.30 yb - 4.30 yh)
Am ragor o wybodaeth:
Y Cod Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol - Fersiwn Hawdd ei Ddeall
NEWID LLIW SGRÎN EICH CYFRIFIADUR
Mae'n rhaid i rai disgyblion newid lliw sgrîn eu cyfrifiadur er mwyn gwneud gwaith ysgol.
Cliciwch Y LINC HWN er mwyn dysgu sut mae newid y gosodiadau ar eich dyfais chi!