Astudiaethau Crefyddol
Croeso i’r Adran Addysg Grefyddol!
Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i astudio’r pwnc gan edrych ar gredoau ac arferion y prif crefyddau ar draws y byd megis Cristnogaeth, Iddewiaeth, Siciaeth, Bwdhaeth ac Islam. Rhoddir cyfle i ddisgyblion ystyried atebion i gwestiynau mawr bywyd e.e. Sut cychwynnodd y byd? i ‘A oes yna Dduw? ac i drafod materion cyfoes fel ‘A yw’n iawn ymladd?’
Mae’r adran Addysg Grefyddol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar efo canlyniadau 100% A*A Lefel A yn ogystal â 50% A*- A a 100% llwyddiant yn y TGAU. Rydym fel adran yn falch iawn o ymroddiad ein disgyblion at y pwnc! Mae dilyn cyrsiau TGAU a Safon Uwch yn rhoi cyfle i ddisgyblion ehangu ar eu dealltwriaeth o faterion cyfoes yn ein cymdeithas ni ac yn ehangu ar ddealltwriaeth o gredoau a diwylliannau ar draws y byd. Bydd myfyrwyr hefyd yn astudio Athronaieth a Moeseg ar y cwrs Lefel A; sy’n bynciau llosg bellach
Mae cyfle i ddisgyblion ddysgu tu allan y dosbarth hefyd drwy ymweliadau i fannau addoli a mynychu sesiynau adolygu gydag arbenigwr yn y pwnc er mwyn ehangu dealltwriaeth y dysgwyr o’r pwnc. Gall astudio Astudiaethau Crefyddol arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, o Addysgu i’r Heddlu, o Feddygaeth i Newyddiadurwr.