
Astudiaethau Cyfryngau
Croeso i’r Adran Gyfryngau.
Mae Cyfryngau yn bwnc sydd yn cael ei gynnig fel cwrs TGAU a Safon Uwch ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.
Mae cyfle i ddisgyblion astudio sawl maes gwahanol, gan gynnwys gemau cyfrifiadur, ffilm, teledu, cerddoriaeth a chyfryngau cymdeithasol. Gall astudio cyfryngau arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, o olygu i newyddiaduraeth, gweithredwr camera i ddatblygwr gemau.