
Daearyddiaeth
Croeso i’r Adran Ddaearyddiaeth!
Mae pob disgybl ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 yn cael cyfle i astudio’r pwnc gan edrych ar amrywiaeth o agweddau ffisegol a dynol y pwnc, o dywydd a hinsawdd i dwristiaeth. Mae Daearyddiaeth yn ddewis poblogaidd ar gyfer cyrsiau TGAU a Safon Uwch ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion ehangu ar eu dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas.
Mae cyfle i ddisgyblion ddysgu tu allan y dosbarth hefyd drwy waith maes a theithiau addysgiadol, fel taith i Wlad yr Ia a’r Eidal.
Gall astudio Daearyddiaeth arwain at nifer eang o lwybrau gyrfau, o Ddaearegydd i beilot drôn, o gynllunio gwlad a thref i Gartograffydd.
Aelodau'r Adran
Mr Ynyr Jeffreys-Evans
Mr Sion Davies
Miss Greta Griffiths