
Sut i Wneud Cais
Gallwch wneud cais am le yn ein Chweched Dosbarth ar gyfer Medi 2025 yma. Gofalwch gyflwyno'ch cais erbyn y 20fed o Fawrth, os gwelwch yn dda. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth o'r ffurflenni cais i gadarnhau ein cynnig terfynol a gosod y pynciau mewn 5 colofn ddewis. Ni fyd angen penderfynu ar eich dewis terfynol o gyrsiau tan fis Medi 2025 ond cofiwch na fydd modd ichi ddewis mwy nag un pwnc o golofn.
I wneud cais am le ar gyfer Medi 2025, cwblhewch y ffurflen isod erbyn yr 20fed o Fawrth os gwelwch yn dda.