Athro / Athrawes Saesneg (Dros gyfnod mamolaeth)
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi athro / athrawes Saesneg dros gyfnod mamolaeth yn dechrau ar yr 28ain o Ebrill, 2025 hyd y 27ain o Fawrth, 2026. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Saesneg i flynyddoedd 7-11.
Mae hon yn swydd rhan amser, tri diwrnod yr wythnos (Mawrth, Mercher a Gwener). Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar y 30ain o Ionawr, 2025.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)