
Athro / Athrawes Gwyddoniaeth
O ganlyniad i dwf yn niferoedd disgyblion, mae Ysgol Morgan Llwyd yn awyddus i benodi aelod newydd, ychwanegol i Adran Wyddoniaeth yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddysgu Gwyddoniaeth i flynyddoedd 7-9 ac yn addysgu TGAU Bioleg, Cemeg neu Ffiseg gyda phosibilrwydd o ddysgu lefel A hefyd yn y dyfodol.
Mae hon yn swydd lawn amser, parhaol, i ddechrau ym Medi 2025. Telir cyflog yn unol a graddfa gyflog athrawon.
Am ragor o wybodaeth gweler y pecyn gwybodaeth sydd ar gael ar wefan yr ysgol neu cysylltwch gyda Miss Rhian Owen drwy e-bost ar [email protected] neu ffoniwch 01978 315050.
I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwewch yn dda a’i dychwelyd at Miss Rhian Owen, drwy e-bost erbyn hanner dydd ar y 1af o Ebrill, 2025.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)